Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 1
Rhagfyr 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6686
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-3 a 5-9. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.29
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ailadeiladu Economaidd - Tynnwyd yn ôl
Tynnwyd yr eitem yn ôl
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl
Dechreuodd yr eitem am 14.53
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.26 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
5 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Arloesi Digidol – Ymateb i Adolygiad Brown
Dechreuodd yr eitem am 15.34
6 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig - Gohiriwyd tan 8 Rhagfyr 2020
Gohiriwyd yr eitem tan 8 Rhagfyr 2020
7 Dadl: Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.17
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7490 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi ail adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar y ffordd y mae Tribiwnlysoedd Cymru yn gweithredu.
Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Ail Adroddiad Blynyddol 2019-2020
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
2 |
1 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws - Cyfyngiadau Mis Rhagfyr
Dechreuodd yr eitem am 16.51
9 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.19 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro i ganiatáu egwyl dechnegol cyn y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 18.24
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 18.25
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 2 Rhagfyr 2020